Y newyddion diweddaraf a'r diweddariadau o Feddygfa Hafan Iechyd.
November 6, 2026
Mae Meddygfa Hafan Iechyd yn falch o fod wedi ymrestru â Fframwaith a Chynllun Gwobr Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru, ac rydym yn cymryd camau gweithredol i leihau ein hôl troed carbon. Mae'r argyfwng hinsawdd hefyd yn argyfwng iechyd. Felly, ein nod yw gwella iechyd poblogaeth ein practis a chynnig dewisiadau cynaliadwy yn y ffordd rydym yn gweithredu a'r gwasanaethau a gynigiwn i'n cleifion. Bydd hyn o fudd i'r GIG, i'ch iechyd chi, ac i ôl troed carbon gofal iechyd.